Cynllun Llysgenhadon Cymru

Pryd cafodd ei sefydlu

Dechreuodd Cynllun Llysgennad Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn wreiddiol yn 2013. Cafodd y cynllun ei ffurfio i gryfhau cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid oedd yn gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth. Cafodd busnesau o Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gynnig y cyfle i fynychu siwrneiau dysgu, digwyddiadau a gweithdai hyfforddiant ac anogwyd i ddod o hyd i gynnyrch lleol, cyflwyno data i fesur effeithau twristiaeth ar yr economi a hybu’r ardal ehangach.

Roedd gan Sir Ddinbych oddeutu 40 o Lysgenhadon Twristiaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ond roedd yn cydnabod yr angen i werthuso’r cynllun ac ymchwilio ffyrdd newydd o reoli ac ymestyn y cynnig.

Ar ôl ymchwilio Cynlluniau Llysgennad eraill ar draws y DU ac ymhellach; penderfynwyd cael dull dysgu cyfunol – ar lein a gweithgaredd wyneb yn wyneb. Diolch am gyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (sy’n cael ei ariannu drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru) a Chyngor Sir Ddinbych cafodd y Cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych ei ffurfio ar ei newydd wedd yn 2017.

Mae’r cynllun presennol yn darparu hyfforddiant i bobl am gynnig twristiaeth Sir Ddinbych i greu gwybodaeth sylfaenol am adnoddau naturiol a diwylliannnol yr ardal, er mwyn gwella profiad cyffredinol lleol ac i ymwelwyr. Mae’r cynllun yn cynnig amryw o fodiwlau hyfforddiant ar-lein ar amryw o themâu (y cyntaf o’i fath i Lysgenhadon yng Nghymru) a llu o adnoddau ar-lein yn ogystal â’r cyfle i Lysgenhadon ddod at ei gilydd a mynychu siwrnai ddysgu ar draws rhanbarth ehangach Gogledd Ddwyrain Cymru.

Cafodd y cynllun newydd ei lansio yn 2019 ac mae’n parhau i dyfu gydag ystod o Lysgenhadon gan gynnwys pobl leol, darparwyr llety ac atyniadau, siopau, tafarndai, myfyrwyr, staff llyfrgell, staff gwybodaeth twristiaeth, tywyswyr a gwirfoddolwyr.

Ambassador Wales logo