Cwrs Llysgenhadon Wrecsam

Cwrs
Llysgenhadon Wrecsam

Darganfod Wrecsam – Porth Gogledd Cymru

Cwrs Llysgenhadon Wrecsam

Darganfod Wrecsam – Porth Gogledd Cymru

Llysgennad Twristiaeth Wrecsam - Wrexham Tourism Ambassador

Beth yw’r Cynllun
Llysgenhadon Twristiaeth?

Mae’r cynllun hwn yn darparu hyfforddiant ar-lein i wella eich gwybodaeth am y cynnig twristiaeth a geir ar draws y fwrdeistref – o’r Orsedd yn y gogledd i Lanarmon Dyffryn Clwyd yn y de. Byddwch yn darganfod mwy am y cynnig twristiaeth, ein diwylliant amrywiol, ein hanes a’r hyn sydd yn ein gwneud ni’n unigryw!

Pan fyddwch chi’n dod yn Llysgennad Twristiaeth byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.

Darganfyddwch pam ein bod ni’n esgyn gyda’n gilydd ac yn Ddinas gyda thref yn ei chalon.

Dewch i fod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Wrexham Today

Darganfyddwch pam ein bod ni’n esgyn gyda’n gilydd ac yn Ddinas gyda thref yn ei chalon.

Dewch i fod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Wrexham Today

“Fel perchennog busnes lleol, roedd gwneud y cwrs ar-lein yn arbed amser ac yn fy helpu i ddysgu mwy am yr ardal arbennig hon yr wyf yn byw ac yn gweithio yndi.”
Sam Regan, Rheolwr The Lemon Tree Restaurant with Rooms

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Wrecsam

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, boed hynny yn eich cartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch y clipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna atebwch y cwis sydyn ar y cyd-destun – a chyn pen dim mi fyddwch chi’n Llysgennad Twristiaeth Wrecsam.

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Wrecsam

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, boed hynny yn eich cartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch y clipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna atebwch y cwis sydyn ar y cyd-destun – a chyn pen dim mi fyddwch chi’n Llysgennad Twristiaeth Wrecsam.

Beth yw'r manteision o ddod yn Llysgennad?

  • I chi

  • Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal

  • Darparu profiad gwell fyth i ymwelwyr

  • Rhoi hwb i'ch hyder er mwyn rhannu gwybodaeth am Wrecsam gydag eraill

  • Meithrin sgiliau newydd i'w rhoi ar eich CV

  • Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein hardal hardd

  • Rhannu syniadau ac arfer dda gyda phobl o’r un fryd

  • Bod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb

  • I’ch busnes

  • Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim

  • Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus

  • Cymorth gyda chymhelliant staff a sut i’w cadw

  • Helpu i wella ffyddlondeb a nifer ymwelwyr sy’n galw eto

  • Helpu i roi hwb i economi Wrecsam

  • Darparu profiadau unigryw a dilys i ymwelwyr

  • Helpu i gynyddu nifer o ymwelwyr, yr hyd y maent yn aros a’u gwariant

  • Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes

  • Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan

  • Mynediad at ystod o adnoddau ar-lein gwerthfawr am y gyrchfan y gallwch eu rhannu gyda’ch ymwelwyr

Diweddaraf o’r blog

Cyfle i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.

Y Llysgenhadon yn eu geiriau eu hunain

Mae cynllun Llysgennad Cymru yn annog adborth. Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn.

Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cefnogi Wythnos Dwristiaeth Cymru

Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad

Cwrs wedi'i ariannu gan

Wrexham County Borough Council - Cyngor Bwrdeistref Sirol Dyma Wrecsam - This is Wrexham