Ffilm yn dangos cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn Sir Ddinbych

Mae ffilm newydd sbon sy’n hyrwyddo profiadau ac atyniadau twristiaeth allweddol yn Sir Ddinbych wedi’i lansio i gyd-fynd â Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.

Mae’r ffilm yn cynnwys cyrchfannau allweddol gan gynnwys yr SC2 newydd sbon yn y Rhyl, Traeth Barkby Prestatyn, Castell Dinbych, Cadeirlan Llanelwy, Nantclwyd y Dre, Carchar Rhuthun, Canolfan Grefft Rhuthun, Dinas Brân, Rheilffordd Llangollen, Plas Newydd ac Abaty Glyn y Groes yn ogystal ag amrywiaeth o brofiadau megis syrffio barcud yn y Rhyl, seiclo ar Fwlch yr Oernant, paragleidio yn Llangollen, beicio mynydd yn One Planet Adventure a phadlo bwrdd ar droed ar Afon Dyfrdwy.

Lansiwyd y ffilm yn y Fforwm Twristiaeth diweddar, lle y daeth bron i 100 o bobl ynghyd i wrando ar siaradwyr gwadd, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Banc Datblygu Cymru. Cynhelir y Fforwm ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi profi i fod yn llwyddiant enfawr ar gyfer busnesau twristiaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu partneriaethau newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r ffilm hon wir yn dangos harddwch Sir Ddinbych, o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy yn y de i’r trefi arfordirol yn y gogledd megis Prestatyn a’r Rhyl. Gyda’r prif dymor ar gyfer twristiaeth yn agosáu ac agoriad diweddar SC2 yn y Rhyl, rydym yn annog ymwelwyr yn ogystal â phobl leol i ail-ddarganfod ein rhan ni o Ogledd Cymru.”

Mae Gogledd Cymru yn prysur ddatblygu’n gyrchfan enwog fel prif leoliad antur, ac mae’r ffilm wir yn amlygu’r profiadau amrywiol a hygyrch sydd ar gael yn y sir ar gyfer pob oedran a diddordeb.

Mae’r ffilm hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’n ffurfio rhan o brosiect Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych a gaiff ei lansio’n fuan. Y nod yw gwella’r profiad i ymwelwyr drwy ddarparu modiwlau hyfforddiant ar-lein ynghylch cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.

I weld y ffilm, ymwelwch â thudalen Facebook neu Sianel YouTube Gogledd Ddwyrain Cymru.